Cynllun Ynni Ardal Leol Abertawe

Mae Cynllun Ynni Ardal Leol yn broses ac yn gynllun ar gyfer newid ardal leol i system sero net o ran carbon. Mae’n ymagwedd gydweithredol a chost-effeithiol sy’n seiliedig ar ddata sy’n arwain at roi targedau sero net cenedlaethol ar waith yn lleol. Arweinir Cynlluniau Ynni Ardal Leol gan awdurdodau lleol a chânt eu datblygu gyda rhanddeiliaid, gan ystyried y system ynni gyfan a nodi’r newidiadau angenrheidiol i gyrraedd y nodau sero net lleol.

Mae Cyngor Abertawe wedi gweithio’n rhanbarthol gyda Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot i ddatblygu Cynllun Ynni Ardal Leol rhanbarthol ac yna bydd pob awdurdod lleol yn gyfrifol am ei roi ar waith yn ei ardal.